Job 35

Trydydd ymateb Elihw: Condemnio Job

1Yna dwedodd Elihw:

2“Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawn
i ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’?
3A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’
a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’
4Gad i mi dy ateb di –
ti, a dy ffrindiau gyda ti.
5Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria;
Edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben.
6Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw?
Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro,
beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?
7Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn,
sut mae hynny'n helpu Duw?
Beth mae e'n ei dderbyn gen ti?
8Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg,
neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn.
9Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help,
ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus.
10Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr,
sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll?
11Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid,
ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’
12Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb,
am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch.
13Dŷn nhw ddim o ddifrif – a dydy Duw ddim yn gwrando;
dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw.
14Felly, pam gwrando arnat ti, sy'n cwyno nad wyt yn ei weld,
fod dy achos o'i flaen, a dy fod yn aros am ymateb?
15A hyd yn oed yn honni nad ydy e'n cosbi yn ei ddig,
ac nad ydy e'n poeni dim am bechod!
16Mae Job yn siarad nonsens;
mae'n mwydro ymlaen heb ddeall dim.”
Copyright information for CYM